Y Swyddfa Gartref yn 'cadarnhau' cynllun i ddefnyddio gwesty yn Llanelli ar gyfer ceiswyr lloches
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dweud bod y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau eu bwriad i ddefnyddio gwesty yn Llanelli ar gyfer hyd at 207 o geiswyr lloches.
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd y cyngor fod y cadarnhad wedi dod "yn dilyn gofyn sawl gwaith am wybodaeth."
Ychwanegodd y cyngor eu bod wedi "derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y Swyddfa Gartref y prynhawn yma o'i chynllun i letya ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli o 3 Gorffennaf 2023.
"Yn y cynllun a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref, sydd wedi cael ei anfon i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, bydd uchafswm o 207 o bobl, a fydd yn grwpiau teuluol, yn cael eu lletya mewn 77 o ystafelloedd.
"Mae'r Cyngor Sir yn gadarn yn erbyn newid defnydd Gwesty Parc y Strade ac yn parhau i ymchwilio i'r sefyllfa gyfreithiol o ran y bwriad hwn."
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Rwy'n credu ei fod yn warthus fod y bwriad hwn gan y Swyddfa Gartref i letya nifer fawr o geiswyr lloches yn mynd yn ei flaen. Hyd yn oed ar yr adeg hon, rwy'n galw ar berchnogion y gwesty, Sterling Woodrow, i ailfeddwl ac atal hyn rhag symud ymlaen."
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli: “Mae hyn yn destun pryder mawr a byddaf yn parhau i wrthwynebu unrhyw gynllun o’r fath yn gadarn dros ben, a chyfleu’n glir y gwrthwynebiad hynod gryf sydd ymysg pobl leol.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am gadarnhad o'u cynllun yn Llanelli.