Rob Roberts wedi ei atal o Dŷ'r Cyffredin am chwe wythnos

CC
Mae Tŷ’r Cyffredin wedi cefnogi cynnig i atal Aelod Seneddol o Gymru o'r siambr am chwe wythnos.
Daw hyn wedi i'r Panel Arbenigol Annibynnol ddod i'r casgliad fod Rob Roberts AS, yr Aelod Seneddol dros Delyn, wedi torri polisi Seneddol ar gamymddwyn rhyw.
Dywed Nation.Cymru na fydd isetholiad yn cael ei chynnal heblaw bod Mr Roberts yn ymddiswyddo, gan nad yw'r panel yn un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin.
Mae Mr Roberts yn cydnabod ei fod wedi "torri ymddiriedaeth", gan ymddiheuro i'r achwynydd, yn ogystal â'i gyd-weithwyr, ei deulu a'i etholwyr, yn ôl Sky News.
Darllenwch y stori'n llawn yma.