Fred West: dim gweddillion dynol wrth archwilio caffi yng Nghaerloyw

Creative Commons
Nid yw’r heddlu wedi darganfod gweddillion dynol wrth archwilio caffi yng Nghaerloyw fel rhan o’u hymchwiliad i ddiflaniad Mary Bastholm.
Ers blynyddoedd, mae’r heddlu’n tybio fod y ferch, a aeth ar goll ym mis Ionawr 1968, wedi cael ei llofruddio gan Fred West.
Roedd Mary Bastholm, a oedd yn 15 oed ar y pryd, yn gweithio mewn caffi ar yr un safle.