Mari Lövgreen: 'Angen lleddfu baich gwaith athrawon’ er mwyn denu rhagor sy'n siarad Cymraeg
Mae prinder athrawon yng Nghymru wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar wedi rhybudd na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 o'r herwydd.
Un sydd wedi hyfforddi i fod yn athrawes gynradd, ond wedi rhoi gorau i’r swydd ers dros 10 mlynedd, yw'r cyflwynydd teledu Mari Lövgreen sy'n credu “bod baich gwaith athrawon yn ormod, a ddim yn realistig".
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd nad yw amodau gweithio'r swydd bellach yn apelio at nifer a fyddai yn gwneud athrawon gwych, a bod hynny angen newid.
“Nes i neud ymarfer dysgu dros 10 mlynedd yn ôl rŵan, a nes i ddysgu yn rhan amser am gyfnod," meddai.
"Naeth o fy nharo i yn syth bod y baich gwaith yn afrealistig.
“Dwi meddwl bod hi’n un o’r swyddi pwysicaf, ac mae fy mharch i at athrawon mor uchel ond dyna pam dwi meddwl bod angen eu gwarchod nhw a gwneud y swydd yn un fwy deniadol fel bod yna fwy o bobl isio mynd i ddysgu.
“Achos ar hyn o bryd mae yna gymaint o bobl yn gadael y proffesiwn.
“Dwi meddwl bod rhaid i bethau newid er mwyn hwyluso'r baich sydd ar athrawon.”
'Her'
Wythnos ddiwethaf fe ddywedodd un o bwyllgorau'r Senedd y byddai'r cynlluniau ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn methu heb gynnydd sylweddol yn nifer y staff.
Yn ôl amcangyfrif gan Dyfodol i'r Iaith hefyd, mae angen 17,000 o athrawon i gofrestru ar y Cynllun Sabothol os ydy Llywodraeth Cymru am wireddu ei bwriad o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod yr her o gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg".
"Rydym eisoes wedi cyhoeddi Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg sy'n nodi nifer o gamau uchelgeisiol y byddwn yn cymryd gyda'n partneriaid er mwyn datblygu'r gweithlu dros y 10 mlynedd nesaf,” meddai llefarydd.
'Gwerthfawrogi'
Mae Ms Lövgreen hefyd yn credu bod stigma yn erbyn athrawon a’r gwaith, a'u bod nhw’n aml ddim yn cael eu gwerthfawrogi.
“Dwi’n meddwl bod athrawon yn cael lot o bad rep, achos bod pobl yn meddwl am wyliau ysgol ac oriau naw tan dri, ond tan bo’ chdi wedi profi dysgu mewn dosbarth am dymor cyfa’, sgeno chi ddim troed i sefyll arno fo,” ychwanegodd.
“A swni yn herio unrhyw un sy’n meddwl bod hi’n swydd hawdd i roi cynnig arni. Achos y gwir ydi, er pa mor ffantastig ydi gweithio efo plant, a dyna o’n i yn ei fwynhau fwyaf, mae bod mewn dosbarth efo fyny at 30 yn waith sy’n cymryd lot o egni.
“Fyswn i ddim yn gwrando ar farn neb sydd heb dreulio cwpwl o ddiwrnodau mewn dosbarth.
“Dwi meddwl y broblem ydi bod ‘na rhyw ddelwedd negyddol bod athrawon yn cwyno ond mae yna reswm dros hynny."
'Hwyluso'
Yn ôl Ms Lövgreen, roedd a chyfnod fel athrawes yn heriol ac roedd hi’n teimlo ei bod hi prin yn cael cyfle i gwblhau'r holl waith oedd angen ei gwneud.
“Erbyn 15:30 o’n i wir wedi blino, ac ar ben hynny mae’r pethau eraill fel paratoi gwersi, gwerthuso ac asesu, a dim bod o yn waith anodd ond o’n i yn teimlo bod nhw yn bethau oedd jyst yn bethau ticio bocsys yn hytrach na’ pethau angenrheidiol," meddai.
“Do’n i byth yn teimlo fel bo’ fi wedi cwblhau fy ngwaith- er swni yn dechrau gweithio 8:00, gweithio drwy fy amser cinio a ddim yn gorffen tan 6:30.”
I Ms Lövgreen mae’r gwaith mae athrawon ar draws Cymru yn gwneud yn rhywbeth dylai “gael ei edmygu ond ei hwyluso.”