Newyddion S4C

Dementia: Y risg yn cynyddu i bobl sy'n datblygu diabetes math 2 cyn troi'n 60

25/05/2023
Dementia

Mae risg person o ddatblygu dementia yn cynyddu y ieuengaf y maen nhw'n datblygu diabetes math 2, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl arbenigwyr, gallai atal dilyniant o prediabaetes i diabetes math 2 olygu gostyngiad sylweddol mewn achosion dementia yn y dyfodol.

Roedd pobl oedd yn datblygu diabetes teip 2 cyn troi'n 60 dair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu dementia yn ogystal.

Prediabetes yw lle mae'r lefel siwgr yn agos iawn i ddiagnosis o diabetes.

Pob blwyddyn mae rhwng 5% a 10% o ddynion canol oed sydd â prediabetes yn datblygu diabetes math 2, ac mae 70% o'r rheiny sydd â prediabetes yn cael diagnosis o diabetes yn ystod eu bywyd, medd ymchwilwyr.

Mae ymchwil yn dangos bod hyd at draean o boblogaeth y DU gyda prediabetes.

Cysylltiad dementia

Yn ôl ymchwil yn yr Unol Daleithiau, mae'r risg o ddatblygu dementia dair gwaith yn uwch i'r rheiny sydd yn datblygu diabetes math 2 cyn iddyn nhw gyrraedd 60 oed.

Dywedodd yr ymchwilwyr: "Mae cysylltiad cryf rhwng dementia a datblygu diabetes yn ifanc.

"Felly, byddai atal neu oedi'r datblygiad o prediabetes i diabetes yn lleihau'r baich o dementia yn y dyfodol yn sylweddol.".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.