Newyddion S4C

Menyw wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gerbyd yn hebrwng Duges Caeredin

Helen Holland

Mae menyw bellach wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan feic modur yr heddlu a oedd yn hebrwng Sophie, Duges Caeredin.

Cadarnhaodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) bod Helen Holland, 81 oed, wedi marw ar ôl cael ei hanafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad ar brynhawn 10 Mai. 

Fe gafodd Ms Holland ei tharo gan y beic modur yn Earl’s Court, Llundain. 

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham fod Duges Caeredin "wedi tristáu" o glywed am farwolaeth Helen Holland.

“Mae ei Mawrhydi yn anfon ei chydymeimladau dwysaf at deulu cyfan Ms Holland," meddai.

Wrth siarad â’r BBC dywedodd Martin Holland, mab Ms Holland, bod ei fam wedi marw yn dilyn “anafiadau mewnol difrifol.” 

Dywedodd bod Ms Holland wedi brwydro i fyw “am bron i bythefnos … ond yn dilyn anafiadau difrifol i’w hymennydd - daeth ei brwydr i ben heddiw.”

Ychwanegodd ei bod hi’n cerdded ar “lwybr diogel” wrth ddefnyddio croesfan pan gafodd hi ei tharo. 

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Mae deunydd CCTV yn cael ei astudio, ac ers 19 Mai, mae apêl am lygad dystion. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.