Netflix yn rhybuddio pobl i beidio rhannu cyfrif y tu hwnt i'w haelwyd

Mae Netflix wedi cyhoeddi y bydd yn anfon e-byst at gwsmeriaid yn nodi na ellir rhannu cyfrifon gyda phobl y tu hwnt i'w haelwyd.
Dywedodd y cwmni ffrydio bod cyfrif Netflix ar gyfer “un aelwyd yn unig,” sy'n golygu nad oes modd rhannu manylion cyfrif, a chyfrineiriau gydag eraill.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn mesurau tebyg mewn gwledydd fel Chile, Costa Rica a Pheriw wedi i’r gwasanaeth golli nifer o danysgrifwyr yn sgil costau byw a rhagor o gystadleuaeth ym maes ffrydio.
Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd Netflix: “Yn dechrau heddiw, byddwn yn anfon yr e-bost yma at bobl sy’n rhannu eu cyfrif Netflix gyda phobl y tu allan i’w cartref.
“Gall pawb sy’n byw o fewn yr un aelwyd ddefnyddio Netflix lle bynnag maen nhw – yn y cartref, wrth deithio, ar wyliau – a gellir cymryd mantais o nodweddion newydd fel Trosglwyddo Proffil a Rheoli Mynediad a Dyfeisiau.
“Dylai cyfrif Netflix cael ei ddefnyddio gan aelwyd un unig.
“Rydym yn cydnabod bod gan ein tanysgrifwyr lawer o ddewisiadau ym maes adloniant,”
“Dyma pam rydym yn buddsoddi gymaint mewn ystod eang o ffilmiau a rhaglenni teledu newydd,” ychwanegodd.