Llywodraeth Japan yn ceisio tawelu ofnau am y Gemau Olympaidd
Mae’r llywodraeth yn Japan wedi ceisio tawelu ofnau am ddiogelwch y Gemau Olympaidd yno ym mis Gorffennaf.
Dyw’r penderfyniad i fwrw mlaen â’r gemau heb fod yn ddewis poblogaidd – gyda polau piniwn yn dangos fod y rhan fwyaf o bobl yn ei gwrthwynebu.
Mae Japan mewn stad o argyfwng o achos y pandemig ac mae disgwyl i’r llywodraeth ymestyn y mesurau diogelwch hyd at ganol fis Mehefin.
Ond dywed Katsunobu Kato, un o aelodau cabinet Llywodraeth Japan, eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i reoli’r feirws ac fe fydden nhw mewn cysylltiad cyson gyda’r unigolion perthnasol yn Japan a dramor ynglŷn â’r mesurau sydd yn eu lle ar gyfer y gemau.
Fe fydd y Gemau Olympaidd yn dechrau ar 23 Gorffennaf.