Newyddion S4C

Merch yn gwario £2,500 ar gêm Roblox heb i'w mam wybod

22/05/2023
roblox

Mae merch 10 oed wedi gwario dros £2,500 ar gêm ar-lein Roblox heb i'w mam wybod, wedi iddi newid y cyfrinair ar iPad ei theulu.

Roedd Georgina Munday o Ddyserth yn Sir Dinbych yn credu bod rhywun wedi hacio cyfrif ei merch Primrose ar ôl darganfod y gwariant sylweddol.

Cafodd dros £2,500 ei wario gan Primrose, sydd ag awtistiaeth. Dywedodd ei mam ei bod hi wedi bod yn chwarae'r gêm yn amlach yn ddiweddar, gan nad yw hi wedi bod yn mynd i'r ysgol.

Roedd Primrose wedi newid cyfrinair ar yr iPad er mwyn galluogi taliadau i wefan Roblox, sydd yn caniatáu defnyddwyr i brynu eitemau i'w cymeriadau rhithiol.

Gwrthododd banc Georgina Munday, Banc Tesco, rhoi ad-daliad iddi i gychwyn, a dywedodd Apple bod modd newid gosodiadau fel bod rhieni yn derbyn neges cyn i daliad gael ei wneud.

Ond wedi iddi fynd at raglen 'You and Yours' BBC Radio 4, fe wnaeth Tesco ymddiheuro a chynnig ad-daliad iddi, er mawr ryddhad i Mrs Munday.

"Roeddwn i wedi ffonio Banc Tesco ac fe ddywedon nhw nad oedden nhw'n gallu gwneud unrhyw beth gan mai fy merch oedd wedi gwneud. Felly fe wnes i gysylltu gydag Apple eto - a dim ond darllen eu telerau ac amodau wnaethon nhw. 

"Felly dyna pam nes i gysylltu gyda You and Yours."

O fewn diwrnod roedd Tesco wedi dweud y byddant yn ad-dalu'r holl arian.

Rhybudd

Dywedodd Georgina Munday nad oedd hi'n hapus i adael i Primrose barhau i chwarae'r gêm, ac mae hi wedi rhybuddio rhieni i fod yn wyliadwrus o'r gemau mae eu plant yn chwarae.

"Roedd hi'n gwybod beth oedd hi'n ei wneud, roedd hi wedi newid y cyfrinair ond dwi ddim yn meddwl ei bod yn deall arwyddocâd hynny.

"Mae plant un cam o flaen eu rheini y dyddiau yma. Roeddwn yn meddwl bod y gêm Roblox yma yn un ddiniwed, mae'n edrych yn syml iawn. Mae'n fyd arall ar Roblox ac roeddwn yn gwybod dim amdano."

Dywedodd Roblox bod ganddynt bolisi ar ad-daliadau pan nad oedd y taliad wedi cael ei wneud gan berchennog y cyfrif.

"Mae'r broses hon wedi ei nodi yn ein canolfan gymorth," dywedodd llefarydd.

"Mae gan rieni hefyd fynediad at Osodiadau Rhieni sydd yn gallu cael eu defnyddio i ganiatáu faint mae eu plant yn gallu gwario."

Llun: Roblox

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.