Newyddion S4C

Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023

21/05/2023
Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi pa lyfrau sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.

Cafodd y rhestr ei chyhoeddi brynhawn ddydd Sul, gyda gwobrau mewn pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc.

Yna, bydd un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.

Dyma’r rhestr fer:


Y Wobr Farddoniaeth

Tosturi, Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)

Y Lôn Hir Iawn, Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

 Gwobr Ffeithiol Greadigol

Sgen I’m Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

Cylchu Cymru, Gareth Evans Jones (Y Lolfa)

Cerdded y Caeau, Rhian Parry (Y Lolfa)

 Gwobr Ffuglen

Pumed Gainc y Mabinogi, Peredur Glyn (Y Lolfa)

Rhyngom, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

 Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)

Byd Bach Dy Hun, Sioned Medi Evans (Y Lolfa)

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: “Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.

"Dyma un o uchafbwyntiau’r calendr llenyddol yng Nghymru, ac mae’n sicr yn un o’n uchafbwyntiau ninnau fel sefydliad.

"Rydym wrth ein boddau’n cael cyfle i gyd-ddathlu llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig gydag awduron, gweisg, darllenwyr, a’r holl gymuned lenyddol.

"Mae rhai wythnosau tan y cawn glywed pwy sy’n cipio’r prif wobrau eleni, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y cyfrolau arbennig hyn, a lle bynnag y byddwch chi – mewn llyfrgell, yn y swyddfa, wrth giatiau’r ysgol – trafodwch nhw, dathlwch nhw, ac anogwch eraill i wneud yr un peth.”

Ffion Dafis oedd enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn y llynedd am ei nofel, Mori.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.