Annog ymwelwyr o rannau o ogledd Lloegr i gymryd prawf Covid-19
Dylai pobl sy’n teithio i Gymru o ardaloedd o’r Deyrnas Unedig gyda chyfraddau uwch o goronafeirws ddod â phrofion cyflym Covid-19 gyda nhw.
Dyna’r cyngor gan y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth i Lywodraeth y DU annog pobl mewn wyth ardal o ogledd Lloegr i leihau ar deithio diangen.
Mae trigolion Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside wedi eu hannog i deithio cyn lleied â phosib, ond nid yw’r cyngor yn rhwystro teithio y tu hwnt i’r ardaloedd hyn.
Daw’r gorchymyn ar drothwy penwythnos Gŵyl y Banc sy’n debygol o fod yn brysur i fusnesau sydd wedi gallu ail-agor yn ddiweddar am y tro cyntaf ers misoedd.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 3,200 achos o’r amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India wedi eu hadnabod yn Lloegr a 57 yng Nghymru.
Dywedodd Mr Drakeford: “Bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain yn rheolaidd, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.
“Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau. Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yn lleol ledled Cymru”.