Dedfrydu brawd Phillip Schofield i 12 mlynedd o garchar am droseddau rhyw yn erbyn plant

Mae brawd y cyflwynydd teledu Phillip Schofield wedi ei garcharu am 12 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Roedd llys wedi cael Timothy Schofield, 54, yn euog o 11 o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn rhwng Hydref 2016 a Hydref 2019, gan gynnwys dwy drosedd o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerwysg.
Fe ddywedodd Schofield, a oedd yn gweithio i heddlu Bath, wrth y rheithgor ei fod wedi gwylio pornograffiaeth gyda phlentyn oedd wedi mynnu ei fod dros 16 mlwydd oed ar y pryd.
Roedd yn gwadu ei fod wedi perfformio gweithgaredd rhywiol gyda’r plentyn.
Ond, fe gafodd Schofield yn euog o bob cyfrif gyda mwyafrif 10-2 o’r rheithgor yn dod i’r penderfyniad ar ôl pum awr a hanner o drafod.
Fe gafodd Schofield ei ddiswyddo gan Heddlu Avon and Somerset yn dilyn y dyfarniad.
'Gorfodi'
Yn y dyfarniad yn Llys y Goron Bryste fore Gwener, fe ddywedodd Mrs Ustus Cutts wrth Schofield: “Fe wnes di ecsbloetio ei ddiniweidrwydd ar gyfer dy foddhad dy hun. Mi oedd o’n gwbl anaddas ar bob lefel i ymddwyn fel y gwnaethost ti.
“Roedd y bachgen yn teimlo ei fod wedi ei orfodi i wneud beth yr oeddet ti eisiau, yn gaeth a ddim â’r gallu i ddianc.
“Mae dy ymddygiad a dy weithredoedd wedi cael effaith niweidiol ar y bachgen.”
Roedd y llys wedi cael Timothy Schofield yn euog o dair cyfrif o orfodi plentyn i wylio gweithgaredd rhywiol, tri chyfrif o gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol yng nghwmni plentyn, tri chyfrif o orfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol a dau gyfrif o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.