Pryder am effaith datblygiad tai mewn pentref ar Ynys Môn ar y Gymraeg

Mae pryderon am effaith cais i ddatblygu tai fforddiadwy mewn pentref ar Ynys Môn ar yr iaith Gymraeg.
Mae adran gynllunio’r cyngor sir wedi derbyn cais ar gyfer 33 o dai “fforddiadwy” ym mhentref Gwalchmai i’r gorllewin o Langefni.
Dywedodd yr ymgeisydd eu bod nhw eisiau darparu tai ar gyfer pobol sydd eisoes yn byw yn yr ardal ac na fyddai yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg.
Ond mae'r cais wedi derbyn 82 o ymatebion o’r gymuned gan gynnwys llythyr yn gwrthwynebu’r cais sydd wedi ei arwyddo gan 47 o bobl.
Roedd cyfarfod gan Gyngor Cymuned Trewalchmai y llynedd hefyd wedi clywed pryderon ynglŷn a’r datblygiad.
Roedden nhw’n cynnwys pryderon am “bobol sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg yn symud i’r ardal, a fyddai yn gwanychu yr iaith yn y gymuned leol ac yn cael effaith negyddol ar ddiwylliant Cymreig”.
Roedd yna hefyd bryderon am yr effaith ar yr iaith Gymraeg a gallu ysgolion a’r feddygfa leol i ymdopi â rhagor o drigolion.
‘Eisoes yn byw’
Cafodd y cais ei gyflwyno gan AMP Construction and Groundworks Ltd drwy’r asiantau Russell-Hughes Cyf.
Byddai'r tai yn cael eu rheoli gan Gymdeithas Dai Gogledd Cymru a’n cael eu cyfyngu i bobol leol, yn ôl eu sylwadau yn y ddogfen gynllunio.
“Ni fydd y datblygiad yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg o fewn yr ardal oherwydd fe fyddai’r tai yn cael eu meddiannu gan bobol leol sydd eisoes yn byw o fewn y gymuned,” medden nhw.