Teyrnged teulu i ddyn 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro

Mae teulu dyn 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro fore dydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Ashley Thomas Rogers o Gilgeti yn y fan a'r lle pan oedd yn gyrru ei feic modur ar hyd yr A477 i gyfeiriad Penfro.
Bu'r beic modur mewn gwrthdrawiad gyda fan wen oedd yn tynnu trelar. Roedd y fan wedi bod yn teithio ar hyd yr A4075 o Benfro, cyn ymuno â’r A477 i gyfeiriad Caerfyrddin.
Dywedodd ei deulu wrth roi teyrnged iddo: “Rydym ni fel teulu mor drist ein bod wedi colli Ashley.
“Roeddem yn ei garu a bydd colled fawr ar ei ôl gan ei ddyweddi, ei fab, ei deulu a'i ffrindiau.”
Mae'r teulu yn gofyn am breifatrwydd wrth iddynt alaru.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r llu gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20230513-109.