Newyddion S4C

sandalwood

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw 44 oed yng Nghasnewydd

NS4C 14/05/2023

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth menyw 44 oed yng Nghasnewydd.

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo yn Sandalwood Court am 11:30 fore dydd Gwener.

Mae'r dyn sydd wedi ei arestio'n 25 oed ac nid yw'r heddlu'n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa ac mae teulu'r fenyw fu farw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi cyfeirio'r achos at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu "yn ôl y drefn arferol".

Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.