Newyddion S4C

A470

Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Betws-y-Coed

NS4C 13/05/2023

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Betws-y-Coed ddydd Sadwrn. 

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A470 rhwng Llanrwst a Betws-y-Coed toc wedi 13:00.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a Citroen Berlingo arian.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad ond bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu a'r crwner wedi cael eu hysbysu am y farwolaeth.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod wrth i Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig Heddlu'r Gogledd ymchwilio i'r digwyddiad.

Dywedodd Sarjant Jason Diamond o Heddlu Gogledd Cymru fod y llu yn apelio am dystion i'r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda swyddogion gan ddyfynnu’r cyferinod A071083.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.