Newyddion S4C

Plaid Cymru i gadarhau penodi arweinydd dros dro

13/05/2023
llyr huws gruffydd

Bydd Plaid Cymru yn cadarnhau penodi arweinydd dros dro mewn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.

Cafodd Llŷr Gruffydd ei enwi yn arweinydd dros dro Plaid Cymru ddydd Iau wedi i Adam Price gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo.

Bydd angen i enwebiad Llŷr Gruffydd gael ei gadarnhau gan Gyngor Cenedlaethol y blaid er mwyn i'w benodiad dros dro fod yn swyddogol.

Cytunodd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ddydd Mercher i ofyn i Grŵp Senedd Plaid Cymru am enwebiadau ar gyfer arweinydd dros dro yn eu cyfarfod ddydd Iau.

Fe gytunwyd hefyd na fyddai yr arweinydd dros dro yn gallu bod yn arweinydd parhaol ar y blaid ond yn aelod o grŵp y blaid yn Senedd Cymru.

Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru fod Llŷr Gruffydd wedi ei "enwebu yn unfrydol gan Grŵp Senedd Plaid Cymru fel Arweinydd Gweithredol y blaid ar yr amod ei fod yn cael ei enwebu gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn".

Bydd arweinydd newydd parhaol yn ei le yn yr haf, meddai Plaid Cymru.

Wrth gamu o'r neilltu ddydd Mercher dywedodd Adam Price ei fod yn bwysig iddo gydnabod "cyd-fethiant" y blaid yn dilyn beirniadaeth o'r modd y mae wedi ymateb i honiadau diweddar o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw.

Mewn datganiad dywedodd Adam Price fod ei “ymrwymiad i’n gweledigaeth o genedl sydd wedi’i thrawsnewid mor gryf ag erioed”.

Ychwanegodd nad oedd ei “egni dros newid wedi ei bylu”.

“Byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a’n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.