Dim ymgais gan Blaid Cymru i ‘guddio’ ei phroblemau meddai Liz Saville Roberts

Doedd dim ymgais gan Blaid Cymru i geisio 'cuddio' problemau mewnol y blaid, yn ôl Liz Saville Roberts.
Daw sylwadau AS Dwyfor Meirionnydd ddydd Iau yn dilyn cyhoeddiad Adam Price dros nos y bydd yn ymddiswyddo yn arweinydd Plaid Cymru unwaith y mae arweinydd dros dro yn cymryd yr awenau yr wythnos nesaf.
Daeth y cyhoeddiad yn sgil adroddiad damniol gan Nerys Evans oedd yn trafod “diwylliant gwenwynig" o fewn y blaid.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod Plaid Cymru wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol" a bod angen ymdrin â nifer o faterion Adnoddau Dynol "ar fyrder".
Ond wrth drafod ar raglen Radio 4 Today dywedodd Liz Saville Roberts fod cyhoeddi’r adroddiad wedi dangos parodrwydd Plaid Cymru i fynd i’r afael â’r broblem.
“Fe wnaethon ni gomisiynu adroddiad gan Nerys Evans a chyhoeddi crynodeb trylwyr i’r cyhoedd,” meddai.
“Pe baen ni eisiau cuddio, fydden ni ddim wedi gwneud hynny.”
Amddiffynnodd hefyd benderfyniad Adam Price i benderfynu aros ymlaen yn y byr dymor yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad.
“Mae’n rhaid dod o hyd i ffordd o fewn plaid, plaid gymharol fach, o sicrhau newid,” meddai.
‘Cyfraniad’
Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod hi hefyd eisiau talu teyrnged i Adam Price.
“Hoffwn ddiolch i Adam am y gwaith y mae wedi'i wneud dros y pedair blynedd diwethaf,” meddai.
“Ar y naill law, mae Adam wedi sicrhau gwell cydraddoldeb yng Nghymru,” meddai.
“Da ni’n sôn am brydau ysgol am ddim i bob un plentyn cynradd, a ddaeth i mewn o ganlyniad i’w arweinyddiaeth.
“Mae'r blynyddoedd Covid wedi bod yn anhygoel o anodd o ran cyfathrebu â phobl. Ond mae annibyniaeth bellach yn rhan o sgwrs genedlaethol Cymru.
“Mae'n rhan o'r sîn wleidyddol Gymreig nawr, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i gyfraniad Adam.”