Newyddion S4C

Cannoedd yn rali 'Nid Yw Cymru Ar Werth' yng Nghaernarfon

Cannoedd yn rali 'Nid Yw Cymru Ar Werth' yng Nghaernarfon

NS4C 08/05/2023

Daeth cannoedd ynghyd ar y Maes yng Nghaernarfon ar gyfer rali Cymdeithas yr Iaith, gan alw am Ddeddf Eiddo gyflawn erbyn diwedd tymor y Senedd.  

Dyma'r ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau yn yr ymgyrch Nid Yw Cymru Ar Werth. Ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen anfon neges glir at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod angen "Deddf Eiddo sydd yn rheoleiddio'r farchnad", gan sicrhau fod pobl ym medru byw yn eu cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n yn cymryd camau radical i "fynd i'r afael â mater sydd yn un cymhleth."

Ddechrau Ebrill, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd sy'n golygu y bydd angen i berchnogion llety gwyliau lenwi 182 noson y flwyddyn yn eu llety os am barhau i dalu treth busnes. Os nad yw perchennog yn cyrraedd y trothwy 182 diwrnod, yna fe fydd angen iddynt dalu trethi'r cynghorau lleol ar eu llety. 

Fis Ebrill hefyd, daeth pwerau newydd i rym er mwyn caniatau i gynghorau wneud rhagor i fynd i’r afael ag ail gartrefi a chartrefi gwag yn eu cymunedau. 

Mae gan awdurdodau lleol ledled Cymru y pŵer i godi treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o hyd at 300% – i fyny o 100% yn flaenorol.

Daw’r mesurau i rym fel rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru gyda'r nod o sicrhau y caiff bawb y cyfle i fyw yn eu cymuned leol ac i geisio gwella argaeledd tai rhent a thai i’w prynu. 

'Angen gweithredu ymhellach'

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen gweithredu ymhellach. 

Yn ôl Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r Llywodraeth wedi addo Papur Gwyn Deddf Eiddo cyn diwedd tymor y Senedd yma, ond does dim sôn amdano na'r cynnwys.

"Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno rhai mesurau cyfyngedig i leihau effaith ail dai a llety gwyliau dydyn nhw ddim wedi mynd at wraidd y broblem - a dydyn nhw ddim yn ei drafod.

"Rydyn ni'n galw am Ddeddf Eiddo ers diwedd y 70 au, mae'r angen yn fwy nag erioed, a chyfle nawr i sortio'r broblem, unwaith ac am byth - trwy Ddeddf Eiddo fydd yn rheoleiddio'r farchnad."

'Ceisio cael atebion i faterion cymhleth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu y dylai pawb gael yr hawl i gartref fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yn eu cymuned, er mwyn iddyn nhw fedru byw a gweithio yn lleol."   

“Rydym yn gweithredu'n radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthi er mwyn cyflawni hyn, ac mae hynny yn rhan o becyn i geisio cael atebion i faterion cymhleth." 

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar y potensial i sefydlu trefn degach ym maes rhent ac i wneud cartrefi yn fforddiadwy."  

Image
Ffred Ffransis
Ffred Ffransis

Yn y rali yn Nghaernarfon, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Ma' Llywodraeth [Cymru] wedi gweithredu ynglŷn â rhai agweddau o'r broblem, ail gartrefi, llety gwyliau, ac yn edrych ar sefyllfa rhenti tenantiaid rŵan.

"Ond ma' nhw'n amharod i fynd at ganol y broblem sef y farchnad agored sy'n dyrannu tai yn ôl faint o bres sydd gennoch chi, ddim yn ôl faint o angen sydd isio.

"Y galwad yn fan hyn i Llywodraeth Cymru yw bod angen deddf eiddo i drin tai fel asedau cymdeithasol i roi cartrefi i bobl, nid fel asedau masnachol i neud pres allan ohonyn nhw."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.