Torfaen yn ail ym Mhrydain ar gyfer twf busnesau bach medd arolwg

Mae Sir Torfaen yn y de ddwyrain wedi dod yn ail mewn arolwg a fu'n astudio ardaloedd ym Mhrydain lle mae busnesau bychain yn tyfu gyflymaf.
Roedd Torfaen yn ail i Calder Valley yn Sir Gorllewin Efrog, sef lleoliad y gyfres deledu Happy Valley.
Roedd yr arolwg wedi cynnwys 2.3 miliwn o fusnesau bychain – cwmnïau gyda llai na 10 o weithwyr.
Dywedodd perchnogion busnesau bach fod yr argyfwng costau byw wedi hybu cefnogaeth gan bobl leol i fusnesau bach annibynnol.
Doedd yna ddim cynrychiolaeth o Lundain na de Lloegr yn y deg uchaf ar y rhestr.
Cafodd yr arolwg ei drefnu gan adeiladwyr gwefannau Go Daddy a dywedodd eu pennaeth yn y DU ac Iwerddon Andrew Gradon: “Mae busnesau bach Prydain yn gwneud cyfraniad aruthrol.
“Mae ganddynt y grym i ychwanegu biliynau i’r economi wrth ddarparu swyddi a sicrhau fod cymunedau lleol ar draws Yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr yn ffynnu."
Llun: Wikimedia Commons