Newyddion S4C

Carafan gwyliau ar werth yng Ngwynedd am £150,000

07/05/2023
Carafan gwyliau

Mae carafan gwyliau ar werth am £150,000 ar safle ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd.

Dywedodd yr arwerthwyr Beresford Adams fod gan y safle hanner erw ganiatâd am un garafan statig ger llwybr yr arfordir yn ymyl Porth Neigwl mewn ardal o brydferthwch naturiol.

Dywedodd Beresford Adams fod y golygfeydd o’r safle yn “nefolaidd” ar draws y bae a Phenrhyn Cilan tuag at Fynydd Rhiw.

Yn ôl yr arwerthwyr, mae carafan wedi bod ar y safle ers 60 mlynedd gyda’r garafan bresennol ar y safle ers 2011.

Ychwanegodd yr arwerthwyr fod caniatâd am garafan ar ddarn unigol o dir yn yr ardal yn cael ei ystyried yn unigryw ac nid oes unrhyw gyfyngiadau ar feddiant a gall gael ei ddefnyddio am bwrpas gwyliau ar hyd y flwyddyn.

Dywedodd Beresford Adams: ‘Mae Porth Neigwl yn cael ei ystyried fel bae hynod ar gyfer syrffio gyda thonau syfrdanol pan mae’r gwynt yn ysgafn o’r môr.  Mae’r traeth yn ardderchog a’r llwybrau heb eu hail a thirwedd y Penrhyn a’r arfordir yn bleser i’w gweld.”

Nid oes unrhyw gyfleustodau wedi eu cysylltu i’r safle yn ôl yr arwerthwyr.

Llun: Beresford Adams

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.