Newyddion S4C

Gwasanaethau brys yn delio gyda thân yng Nghaerdydd

07/05/2023
Peiriant tan

Mae ymladdwyr yn delio gyda thân yn y brifddinas Caerdydd.

Mae criwiau o’r Rhath a Maindy yn delio gyda’r tân yn ardal Ffordd Ipswich ym Mhenylan a ddechreuodd fore dydd Sul.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod tipyn o fwg yn deillio o’r tân.

Mae’r gwasanaeth wedi cynghori pobl leol i gau eu drysau a’u ffenestri.

Roedd cymylau mawr o fwg i’w gweld yn codi ar draws rhan ddwyreiniol y ddinas.

Dywedodd y gwasanaeth nad oedd y tân yn effeithio ar dai cyfagos ac nid oedd unrhyw berygl i’r cyhoedd.

Dechreuodd y tân ychydig cyn 09:45 ac ni chafodd unrhyw un ei anafu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.