Dyn o Gorwen yn dal i gael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio

Mae dyn lleol o Gorwen gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn y dref yn gynnar fore dydd Gwener yn dal i gael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion wedi eu galw am 02:35 yn dilyn adroddiadau am "ddigwyddiad domestig" yn ardal Clawdd Poncen o'r dref.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi cael caniatâd gan y Llys am fwy o amser i gwestiynu’r dyn 27 oed.
Ychwanegodd y llu fod dynes 33 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol. Mae hi mewn "cyflwr sefydlog ond critigol".
Cafodd tri phlentyn eu cludo i’r ysbyty – mae un yn parhau i fod yno gydag anafiadau difrifol ac mae dau eisoes wedi cael eu rhyddhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Bell o Dîm Ymchwiliadau Difrifol yr heddlu: “Mae ymholiadau’n parhau i ddigwyddiad difrifol sy’n amlwg wedi achosi poen meddwl ac rydym yn gwerthfawrogi fod hwn wedi achosi pryderon yn y gymuned leol.
“Mae ditectifs yn parhau i gynnal ymholiadau er mwyn darganfod yr union amgylchiadau o beth sydd wedi digwydd ac mae’r dyn a gafodd ei arestio yn parhau i fod yn y ddalfa. Hoffwn sicrhau pawb nad ydym yn chwilio am rywun arall yn yr achos hwn ac nad oes bygythiad i'r gymuned ehangach.
“Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau i fod yn ardal ar hyn o bryd.
“Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i drigolion ardal Clawdd Poncen am eu cefnogaeth barhaol, dealltwriaeth ac amynedd wrth i swyddogion barhau hefo eu gwaith."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod A066020.