Cyffuriau wedi’u dwyn o filfeddygfa ym Mhowys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi annog unrhyw un sydd wedi cael cynnig meddyginiaethau i anifeiliaid ym Mhowys i gysylltu gyda nhw ar unwaith.
Daw’r rhybudd gan yr heddlu yn dilyn achos o ddwyn ym Milfeddygfa Hafren yn Nhref-y-Clawdd.
Cafodd un cerbyd, cyffuriau a thawelyddion anifeiliaid eu dwyn rhyw bryd rhwng 21:00 nos Sul 23 Mai a 08:00 dydd Llun 24 Mai.
Mae’r cerbyd yn cael ei ddisgrifio fel Nissan Navara brown gydag ‘Hafren Group’ wedi’i ysgrifennu ar yr ochr, a rhif y platiau cofrestru yw FX66 UER.
Dywedodd y ditectif arolygydd Andy Evans o Heddlu Dyfed-Powys: “Meddyginiaeth ar gyfer anifeiliaid yn unig yw’r feddyginiaeth sydd wedi’i ddwyn, ac nid yw’n addas mewn unrhyw ffordd i bobl.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi cael cynnig y feddyginiaeth i gysylltu â’r heddlu ar unwaith.”
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod DPP/0016/24/05/2021/01/c.