Newyddion S4C

Diwrnod hanesyddol wrth i'r Brenin Charles III gael ei goroni

06/05/2023
Coroni Charles

Fe fydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod hanesyddol wrth i'r Brenin Charles III gael ei goroni'n Frenin. 

Dyma'r tro cyntaf i'r coroni ddigwydd yn y DU ers i'r diweddar Elizabeth II gael ei choroni yn Frenhines yn 1953. 

Bydd miliynau o bobl yn y DU ac ar draws y byd yn gwylio'r seremoni sydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach yn Abaty Westminster, Llundain.

Nid pawb sydd yn gefnogol o'r digwyddiad ac mae disgwyl protestiadau hefyd gan Weriniaethwyr sydd yn gwrthwynebu cost a symboliaeth y coroni.

Bydd y Frenhines Gydweddog hefyd yn cael ei choroni ac fe fydd yn cael ei hadnabod fel y Frenhines Camilla. 

Y cyntaf i'r felin fydd hi ar gyfer y cyhoedd er mwyn ymgynnull ar y Mall a Whitehall, a bydd pobl yn cael eu cyfeirio i wylio'r seremoni ym Mharc Hyde, Park Green a Pharc St James.

Bydd modd i tua 4,000 o bobl fynychu darllediadau cyhoeddus mewn dau leoliad gwahanol yng Nghaerdydd. 

Yng Nghastell Caerdydd mae capasiti i 2,000 wylio seremoni’r coroni.

Yn Mhlas Roald Dahl ym Mae Caerdydd bydd lle i 2,000 o bobl ar gyfer y cyngerdd.

Image
Ymwelwyr Coroni'r Brenin

Yr amserlen

Dyma drefn y diwrnod ddydd Sadwrn:

10:20: Y Brenin a'r Frenhines yn gadael Palas Buckingham. 

10:25: Aelodau o deuluoedd brenhinol tramor yn cyrraedd yr Abaty.

10:35: Aelodau'r Teulu Brenhinol yn cyrraedd yr Abaty.

10:45: Tywysog a Thywysoges Cymru a'u plant yn cyrraedd yr Abaty.

10:53: Y Brenin a'r Frenhines yn cyrraedd yr Abaty, a bydd trympedwyr yn canu ffanfer. 

Yna, bydd prosesiwn y Brenin, wedi ei arwain gan Groes Cymru, yn dechrau. 

Am 11:00, bydd seremoni'r Coroni yn dechrau, ac ar ôl y prosesiwn, bydd Archesgob Caergaint Justin Welby yn rhoi cyflwyniad, ond am y tro cyntaf erioed, bydd Arglwyddes y Garter ac Arglwyddes yr Ysgallen yn gwneud datganiadau hefyd. 

Bydd y gyngres yn gweiddi "God Save the King!". 

Am 12:00, bydd y coroni yn digwydd, gyda'r Brenin yn cael ei goroni gan Archesgob Caergaint gyda Choron St Edward. 

Yna, bydd clychau'r abaty yn canu am ddau funud gyda saliwtiau gwn yn digwydd yn Nhŵr Llundain yn ogystal ag ar draws Prydain. 

Bydd y Frenhines yn cael ei heneinio gydag olew sanctaidd cyn y bydd hi'n cael ei choroni gan yr archesgob gyda Choron y Frenhines Mary. 

Bydd y ddau yna yn newid i wisgo gwisgoedd piws a bydd yr anthem genedlaethol yn cael ei chanu wrth i'r Brenin a'i brosesiwn, gan gynnwys Tywysog a Thywysoges Cymru, wneud eu ffordd allan o'r Abaty. 

Am 13:00, bydd prosesiwn y Coroni yn gadael yr Abaty, cyn y byddant yn ymddangos ym Mhalas Buckingham ar gyfer y saliwt brenhinol gyda lluoedd arfog y DU a'r Gymanwlad.  

Llun: PA / Charles McQuillan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.