Newyddion S4C

Steer

Dyn a laddodd dynes ar ôl defnyddio’i gar fel ‘arf’ yn euog o lofruddiaeth

NS4C 04/05/2023

Mae gyrrwr a laddodd dynes o Bowys ar ôl ddefnyddio’i gar fel ‘arf’ wedi ei gael yn euog o’i llofruddio.

Bu farw Rebecca Steer, o Lanymynech, ar ôl i Stephen McHugh, 28, yrru ei gar tuag at gerddwyr mewn digwyddiad yng nghanol Croesoswallt, Sir Amwythig, yn oriau man bore ddydd Sul 9 Hydref y llynedd.

Roedd Ms Steer, 22, yn croesi’r ffordd tu allan i siop tecawê, pan yrrodd McHugh ei gar Volvo lliw aur yn ei chyfeiriad, gan ei llusgo o dan ei gar.

Fe darodd cerbyd McHugh dri o bobol gan gynnwys dau ddyn gafodd eu “taro o’r neilltu” gan y car.

Roedd y gyrrwr o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ar y pryd ac nid oedd yn dal trwydded gyrru.

Roedd McHugh wedi gwadu llofruddio Rebecca Steer ond yn cyfaddef ei dynladdiad.

Roedd hefyd wedi cyfaddef i ymosod gan achosi anaf i Kyle Roberts, a gafodd ei daro gan ei gar hefyd, ond roedd wedi gwadu ceisio achosi niwed corfforol difrifol fwriadol iddo.

Yn ystod y gwrandawiad, fe ddywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Kevin Hegarty KC, fod McHugh, wedi stopio a “chyfnewid geiriau” gyda grŵp o bobl ger siop tecawê Grill Out.

Dywedodd Mr Hegarty wrth y llys: “Ar y foment honno roedd Rebecca Steer yn croesi Stryd Willow.

“Yn sydyn iawn, wrth iddi groesi, saethodd y Volvo am yn ôl. Fe’i methodd hi o drwch blewyn.”

'Anafiadau trychinebus'

Clywodd y rheithgor fod Ms Steer wedi llwyddo i ddod o ffordd llwybr y car a cherdded i'r palmant yr ochr arall i'r stryd.

Ychwanegodd Mr Hegarty: “Ar y foment honno trodd Mr McHugh y llyw i gyfeiriad y bobl ar y palmant ac yna fe yrrodd ymlaen i’r palmant tuag at y grŵp o bobl.

“Aeth ochr y car ymlaen at ymyl y palmant, ymlaen i’r llwybr troed, ac y ei flaen i yrru drwy’r grŵp.

“Rydyn ni’n dweud ei fod wedi defnyddio ei gar fel arf – fe ddefnyddiodd bŵer a phwysau’r car i daro’r grŵp.”

Ar ôl taro’r grŵp, fe aeth y cerbyd dros Ms Steer, gan achosi anafiadau mewnol “trychinebus” a thorri ei hasennau.

Ar ôl treulio wyth awr yn ystyried dros gyfnod o dri diwrnod, daeth mwyafrif y rheithgor i benderfyniad fod Mr McHugh, o Neuadd y Parc, Sir Amwythig, yn euog o lofruddiaeth ac achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.