Prifysgol Bangor yn cyflenwi 'lleisiau synthetig' ar gyfer pobl ifanc i'w helpu i siarad

Mae Prifysgol Bangor a chwmni CereProc wedi ennill cytundeb i gyflenwi 16 o "leisiau synthetig pwrpasol" i Wasanaeth Iechyd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau.
Mae angen offer cyfathrebu ar oddeutu 330,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig i'w helpu nhw i siarad, oherwydd amrywiaeth o afiechydon ac anawsterau dysgu.
Mae offer Cyfathrebu Atodol ac Amgen (AAC) yn cael ei ddefnyddio i wella sgiliau cyfathrebu cyfyngedig, ond i blant bu'n anodd dod o hyd i acenion rhanbarthol sy'n briodol i'w hoedran medd y brifysgol.
Mae lleisiau pwrpasol yn cael eu creu gyda lleisiau gwrywaidd a benywaidd plant a phobl ifanc yn eu harddegau ac acenion y gogledd a’r de, a byddant ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd pob un o’r 16 llais yn barod i’w defnyddio cyn hydref 2023.
Mae CereProc yn cydweithio ag Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, sef uned ymchwil hunan-gyllidol sy’n arbenigo mewn Technolegau Iaith ar gyfer ieithoedd sydd â llai o adnoddau, a’r Gymraeg yn bennaf.
Dywedodd Dr Jeffrey Morris, Pennaeth Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig GIG Cymru ac arweinydd cyflwyno lleisiau newydd Cymru: “Oherwydd y costau datblygu, yn anffodus, yn y gorffennol methodd y cwmnïau sy’n gweithredu yn y maes â blaenoriaethu tafodieithoedd a modelau iaith, ac felly rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gamu i’r adwy ac ariannu’r gwaith pwysig hwn a fydd yn cael effaith aruthrol ar y plant sy'n dibynnu ar y dyfeisiau.
"Rhagwelwn y bydd y lleisiau newydd yn lleihau’r rhwystrau i blant sy’n defnyddio dyfeisiau cyfathrebu uwch-dechnolegol yng Nghymru, a chaniatáu iddynt siarad ag acen ac iaith sy’n debyg i’w teulu a’u cyfoedion.”
Dywedodd yr Athro Delyth Prys – Pennaeth yr Uned Technolegau Ieithoedd: “Mae Prifysgol Bangor yn hapus iawn i weithio gyda CereProc ar y project hwn. Mae’r cyfuniad o arbenigedd synthesis lleferydd masnachol CereProc a phrofiad a gwybodaeth Bangor o dechnoleg lleferydd i’r iaith Gymraeg yn ffrwythlon iawn a gobeithiwn barhau â’r bartneriaeth lwyddiannus honno yn y dyfodol”.