Newyddion S4C

Cael canser y coluddyn yn 27 oed: 'Nes i feddwl, na'i byth gael o'

05/05/2023

Cael canser y coluddyn yn 27 oed: 'Nes i feddwl, na'i byth gael o'

“Er bo’ chdi yn clywed am bobl ifanc yn cael canser, ti’n deu'tha dy hun ‘nai byth gal o, no we, byth’", meddai dyn 27 oed sy’n derbyn triniaeth at ganser y coluddyn. 

Mae Daron Evans o Langefni wedi derbyn llawdriniaeth i dynnu rhan o’r coluddyn, ac mae nawr wedi dechrau triniaeth cemotherapi fydd yn parhau am chwe mis. 

Fe gafodd y tad a’r gŵr ifanc o Fôn wybod fod ganddo ganser ym mis Ionawr eleni ar ôl sawl apwyntiad doctor yn "cwyno fod rwbath ddim yn iawn.

“Es i at y doctor diwedd blwyddyn dwytha efo 'chydig o boen, pethau bach rili," meddai wrth Newyddion S4C. 

“Ti gwybod pan ti’n ifanc ti ddim rili meddwl am dana fo. Nath y doctor neud blood tests i fi a ges i drio gwahanol dabledi. 

“Ond wedyn rhwng 'Dolig a Flwyddyn Newydd o’n i meddwl enough is enough. Poenau oedd y main indicator i fi a neshi benderfynu mynd nôl ar y doctor."

Image
newyddion
Daron gyda'i wraig Chloe a'u merch Elsi.


Fe gafodd Daron apwyntiad brys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac fe gafodd wybod bod ganddo ganser. 

“Ges i sawl sgan, ac wedyn ar ôl hynny, nathon nhw isda fi a Chloe y wraig, lawr mewn ystafell a deud bod nhw wedi ffeindio rwbath yn y bowel, a nes i ofyn y cwestiwn: ‘ydio’n ganser?’

“Achos ma’ rhywun yn tueddu i fynd ar Google, ac o’n i wedi rhoi dau a dau efo’i gilydd, a udodd y doctor , ‘ydi mae o yn ganser’".

Mae'r rhan fwyaf o bobl â chanser y coluddyn yn cael diagnosis yn hŷn na 50 oed. Ond mae mwy na 2,500 o bobl dan 50 oed yn cael diagnosis bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. 

Roedd Daron wedi paratoi ei hun at glywed y newyddion, ond doedd derbyn y newyddion ddim yn hawdd.

“Oedd o yn od, trwy’r diagnosis o’n i wedi bod yn Googlo ac o’n i’n gwybod ‘sa fo medru bod yn ganser, ond ma’ 'na ddarn yn gefn dy ben di yn mynd ‘no way’. 

“Er bo’ chdi yn clywed am dana fo yn bob man, ar y news, bod pobl ifanc yn cael canser ti’n deutha dy hun ‘nai byth gal o, no we, byth’". 

‘Ma’ hyn yn siriys’

Yn ôl Daron mae derbyn diagnosis o ganser “mor ifanc yn anodd iawn, ond mae hyd yn oed yn fwy anodd i deulu a ffrindiau.” 

“I fi, efo teulu ac mor ifanc o’n i’n gwybod bo’ rhaid i fi gwffio. Yr adeg nath o sincio i mewn oedd ar ôl yr operation ac o’n i’n gorwedd mewn gwely ysbyty a meddwl, ma’ hyn yn siriys.” 

Image
newyddion
Daron yn yr ysbyty ar ôl derbyn llawdriniaeth.

Fe wnaeth llawdriniaeth Daron fynd yn dda ond mae’n rhaid iddo dderbyn wyth sesiwn o gemotherapi fydd yn parhau am chwe mis. 

“Ma’ chwe mis yn stint go hir. Mae o yn tynnu 'chydig o nerth a bywyd allan o rywun, a dwi’n cael 'chydig o’r side effects, a ma’ nhw’n deud bod hynny yn normal.

“Wsos dwi di neud, felly dwi ddim yn gwybod be sydd i ddod yn y chwe mis nesaf.”

Mae Daron yn gobeithio y bydd rhannu ei stori yn annog eraill, yn hen ac ifanc, i ddod i adnabod symptomau canser y coluddyn a gwneud apwyntiad doctor os oes rhywbeth yn eu poeni. 


Symptomau

Gall symptomau canser y coluddyn gynnwys:

  • Gwaedu o'ch pen ôl a/neu waed yn eich carthion
  • Newid parhaus ac anesboniadwy yn arferion y coluddyn
  • Colli pwysau heb esboniad
  • Blinder eithafol heb unrhyw reswm amlwg
  • Poen neu lwmp yn eich bol
     

Mae'n bwysig gwybod nad oes gan y rhan fwyaf o bobl â'r symptomau hyn ganser y coluddyn. Gall problemau iechyd eraill achosi symptomau tebyg. Ond os oes gennych unrhyw un o'r rhain, neu os nad yw pethau'n teimlo'n iawn, ewch i weld eich meddyg teulu yw cyngor Daron.

“Does 'na ddim digon o bobl ifanc yn gwybod am y symptomau, ac o’n i ru’n fath nes i feddwl bydd o byth yn fi, fyddai byth yn statistic,” ychwanegodd Daron. 

“Ond ti’n sylwi faint o bobl sydd efo fo, a faint o bobl sydd ddim meddwl am y symptomau a chymryd bob dim for granted, fatha fi.

“O’n i roi'r blinder lawr i gael babi naw mis oed, oedd o rhy hawdd rhoi bai ar huna. 

“Ond dwi methu rhoi o mewn i eiriau pa mor bwysig ydy o i checkio ein hunain allan, dwi’n gwybod man imbarysing subject ond ma’ o mor bwysig.”

'Gobeithiol'

Mae Daron yn obeithiol iawn am y dyfodol ac yn cymryd un diwrnod ar y tro. 

“Dwi jyst isio byw bywyd iach, dim stressio dros betha’ bach, dros bres a phethau fel'na a neud gymaint alli di. 

“Dwi’n obeithiol yn fwy na dim byd, bo fi’n cael yr all clear ar ddiwedd hyn. Byddai ddim anghofio ond, byddai’n cario 'mlaen yn iach ac yn normal.” 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.