Y pandemig wedi cael 'effaith negyddol' ar allu darllen disgyblion

Mae'r pandemig wedi cael 'effaith negyddol' ar allu darllen disgyblion, yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan y corff arolygu addysg Estyn.
Dywed adroddiad 'Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10 i 14 mlwydd oed' fod y pandemig wedi effeithio yn sylweddol ar ddisgyblion sydd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu yn dod o gefndiroedd difreintiedig.
Ychwanegodd yr adroddiad fod "amrywiadau eang" ym medrau darllen disgyblion sydd rhwng 10 ac 14 oed yn parhau "o fewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed, ac ar eu traws."
Dywed Estyn fod yr ysgolion gorau yn sicrhau bod strategaethau ar waith er mwyn helpu disgyblion i ddeall beth maen nhw'n ei ddarllen yn ogystal â "datblygu medrau siarad a gwrando".
Er hyn, mae'n dweud mai lleiafrif o ysgolion uwchradd sydd gan strategaethau fel hyn yn gyson "mewn gwersi Saesneg ac ar draws y cwricwlwm."
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai athrawon dderbyn "dysgu proffesiynol o ansawdd uchel" ar y strategaethau sydd yn helpu disgyblion i ddatblygu eu gallu darllen.
'Blaenoriaeth genedlaethol'
Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans, fod "gwella medrau darllen disgyblion yn flaenoriaeth genedlaethol.
"Mae ein canfyddiadau’n dangos bod yr athrawon gorau yn gweu gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu gyda’i gilydd yn fedrus fel bod pob medr o fudd i’r medrau eraill.
"Rydyn ni’n argymell y dylai arweinwyr ysgolion, gyda chefnogaeth gan eu clystyrau a’u partneriaid gwella, ddarparu cyfleoedd i staff ddysgu am strategaethau addysgu wedi’u seilio ar dystiolaeth i ddatblygu medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm."
Dywed yr adroddiad hefyd ei bod hi'n anoddach mewn ysgolion uwchradd i ddatblygu medrau darllen yn sgil "trefniadau gwersi mwy cymhleth a niferus".
Mae'r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion ar gyfer arweinwyr ysgolion, pobl sydd yn gweithio yn yr ystafell ddosbarth a Llywodraeth Cymru.
Mae'r corff addysgu hefyd yn awyddus i "fonitro a gwerthuso strategaethau mewn ysgolion yn agos" a "chynllunio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer cyfnod pontio disgyblion."
'Ysgogiad i ddarllen'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn darparu adnoddau gan gynnwys fod pob disgybl yn derbyn llyfr am ddim, ac rydym yn gwneud peilot o raglen fentora darllen lle y bydd myfyrwyr prifysgol yn cael eu partneru gydag ysgolion cynradd i annog mwynhad ac ysgogiad i ddarllen.
"Rydym yn croesawu argymhellion Estyn, maent yn adlewyrchu ein disgwyliadau ni i bob disgybl ddatblygu safonau uchel, waeth beth fo'u cefndir."