Newyddion S4C

Putin (Llywodraeth Rwsia)

Ymgais ar fywyd Putin gan ddau ddrôn, meddai’r Kremlin

NS4C 03/05/2023

Mae Rwsia yn honni bod ymgais wedi ei wneud ar fywyd yr Arlywydd Putin wrth i dau ddrôn ymosod ar y Kremlin.

Cafodd y drôns eu defnyddio yn yr ymosodiad honedig nos Fawrth, cyn i luoedd Rwsia lwyddo i’w hatal.

Doedd Mr Putin ddim yn y Kremlin ar pryd a doedd dim adeiladau wedi’u difrodi, yn ôl asiantaethau newyddion yn Rwsia.

Mae Rwsia yn dweud mai Wcrain oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, gan ei alw’n “ddigwyddiad terfysgol oedd wedi ei gynllunio.”

Dywedodd y Kremlin fod ganddynt yr hawl i ymateb i’r ymosodiad honedig “yn y ffordd y mae’n dewis”.

Mae'r awdurdodau yn Wcráin yn gwadu'r cyhuddiad.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.