Y Coroni: Dadorchuddio blwch post arbennig yng Nghaerdydd

Mae'r Post Brenhinol wedi dadorchuddio blwch post arbennig yng Nghaerdydd, un o bedwar sydd wedi ymddangos ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae'r blychau eraill wedi eu lleoli yn Llundain, Caeredin a Hillsborough (Gogledd Iwerddon) ac yn arddangos arwyddlun swyddogol y digwyddiad.
Mae'r blwch yng Nghaerdydd y tu allan i dafarn yr Owain Glyndŵr, ger y castell.
Dywedodd cyfarwyddwr materion allanol a pholisi'r Post Brenhinol, David Gold, fod "coroni Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla yn achlysur pwysig ac yn un a fydd yn cael ei ddathlu ar draws y DU.
"Rydym yn falch i nodi digwyddiad mor hanesyddol ac i gynnig ein llongyfarchiadau dwysaf i'r Brenin a'r Frenhines."
Mae'r Post Brenhinol hefyd yn nodi'r Coroni drwy gyhoeddi pedwar stamp newydd a fydd yn portreadu'r Brenin Charles yn cael ei goroni.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Lucy Frazer fod "ein blychau post yn cael eu cydnabod ar draws y byd fel symbol eiconig o Brydain, a bydd y pedwar blwch post unigryw yma ar gyfer y coroni yn gadael gwaddol brenhinol parhaol yn Llundain, Caerdydd, Caeredin ac Hillsborough."
Bydd coroni’r Brenin Charles yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 6 Mai yn Abaty Westminster.
Bydd gŵyl banc ychwanegol yn cael ei chynnal ddydd Llun, 8 Mai.
Llun gan Tom Wren/Royal Mail.