Newyddion S4C

Undeb nyrsio yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o gefnu ar gleifion iechyd meddwl

03/05/2023
Iselder

Mae undeb nyrsio wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gefnu ar gleifion iechyd meddwl.

Dywedodd undeb yr RCN mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher bod angen buddsoddi rhagor o arian yn y sector.

Mae'r grŵp, sydd yn cynnwys pobl o bob cwr o Gymru sydd wedi profi anghydraddoldebau iechyd meddwl, wedi "mynegi eu siom" yn sgil ymateb y llywodraeth i adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd sydd yn ymdrin â'r mater.

Dywedodd Jenifer French, o RCN Cymru, fod rhai sy’n profi salwch meddwl difrifol a pharhaus "wedi cael eu gadael ar ôl" gan Lywodraeth Cymru.

“Mae gan nyrsys iechyd meddwl set unigryw o sgiliau er mwyn cwrdd ag anghenion rhai o'r grwpiau mwyaf bregus mewn cymdeithas," meddai.

"Mae nyrsys iechyd meddwl yn darparu gofal clinigol sy'n achub bywydau ac maen nhw'n gallu helpu unigolion i newid eu bywydau.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod gwerth nyrsys iechyd meddwl wrth amddiffyn iechyd cleifion.”

'Camau effeithiol'

Daw sylwadau RCN Cymru wrth i grŵp cynghori fynegi siom ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd ar y mater.

Roedd y grŵp yn cynnwys pobl o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad uniongyrchol o anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Fe wnaeth y grŵp gydweithio gyda Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn ystod eu hymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl, gan ychwanegu fod ymateb y Dirprwy Weinidog "yn ymddangos fel rhestr o esgusodion."

Ychwanegodd y grŵp fod yr ymatebion yn "rhy gryno ac yn dangos diffyg dealltwriaeth" ynghylch y problemau sy'n wynebu pobl.

Bydd adroddiad y grŵp yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher. 

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, Russell George AS: "Fel Pwyllgor, rydym yn rhannu siom ein grŵp cynghori ar-lein nad yw’r ymateb yn adlewyrchu uchelgais ein hadroddiad yn llawn

"Ein neges ganolog yw na fydd iechyd meddwl a lles y boblogaeth yn gwella oni bai bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael, gan gynnwys cydnabod a mynd i’r afael ag effaith trawma.

"Rydym am i’r neges hon, ac uchelgais clir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru."

'Adeiladu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yn flaenoriaeth i ni ac rydym wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob un ond un o 27 o argymhellion yr adroddiad [pwyllgor y Senedd]. 

"Trwy gydol 2023 byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, i ddatblygu strategaeth i ddilyn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, gan adeiladu ar nod y strategaeth bresennol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru." 

Llun gan Sherise Van Dyk ar Unsplash.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.