Newyddion S4C

Arestio dyn o'r Bari am ymosod ar swyddog heddlu benywaidd

28/04/2023
stryd fawr y bari

Mae dyn 44 oed o'r Bari wedi cael ei arestio ar ôl rhedeg i ffwrdd heb dalu o fwyty yng nghanol y dref ac ymosod ar swyddog heddlu benywaidd. 

Cafodd swyddogion eu galw i'r Stryd Fawr am tua 19:30 ddydd Mercher yn dilyn adroddiad fod cwpl wedi methu â thalu am eu pryd bwyd cyn gadael mewn cerbyd. 

Cafodd y cerbyd ei stopio ar Heol Broad ac wrth arestio un o'r bobl, cafodd y swyddog ei chicio gan un o'r teithwyr. 

Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.