Newyddion S4C

Ed Sheeran

Ed Sheeran yn chwarae gitâr i reithgor yn ei achos hawlfraint yn Efrog Newydd

NS4C 28/04/2023

Fe wnaeth Ed Sheeran chwarae'r gitâr mewn llys yn Efrog Newydd ddydd Iau wrth iddo roi tystiolaeth yn ei achos hawlfraint.

Perfformiodd Sheeran ddarn byr o'i gân Thinking Out Loud wrth iddo roi tystiolaeth yn yr achos a fydd yn penderfynu os ydy'r gân yn torri hawlfraint cân Marvin Gaye 'Let's Get It On'.

Mae perthnasau i gyd-gyfansoddwr Marvin Gaye yn honni fod yna "debygrwydd amlwg" ac "elfennau rhy gyffredin" i'r gân enwog a gafodd ei chyfansoddi ym 1973.

Mae'r teulu'n ceisio hawlio iawndal gan Warner Music Group a Sony Music Publishing am ddefnyddio rhai elfennau o'r gân enwog. 

Gofynodd cyfreithiwr Sheeran iddo sut y gwnaeth gyfansoddi'r darn, a gyrhaeddodd rhif un yn y siartiau cerddoriaeth yn 2014 mewn mwy na 12 o wledydd.  

Wrth estyn y gitâr y tu ôl iddo, dywedodd Sheeran wrth y rheithgor fod ysgrifennu cân yn ail natur iddo, ac ei fod yn defnyddio ei fersiwn ei hun o seineg er mwyn creu caneuon yn sydyn, gan honni y gallai ysgrifennu hyd at naw y dydd.

Mae disgwyl i'r achos barhau am o leiaf wythnos, ac os ydy'r rheithgor yn penderfynu fod Sheeran yn atebol am dorri hawlfraint, bydd yr achos yn parhau i benderfynu faint o iawndal y dylai ei dalu. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.