Gwaith adnewyddu amddiffynfeydd Hen Golwyn yn dechrau

Gwaith adnewyddu amddiffynfeydd Hen Golwyn yn dechrau
Fe ddechreuodd y gwaith ar adnewyddu’r prom a’r amddiffynfeydd yn Hen Golwyn ddydd Llun.
Mae’r gwaith yn dilyn adroddiad i Gyngor Sir Conwy'r llynedd yn rhybuddio bod risg yn parhau i’r ardal yma a rhai’n rhybuddio y byddai methiant trychinebus petai’r gwaethaf yn digwydd.
Mae’r amddiffynfeydd yn gwarchod priffordd yr A55 a'r rheilffordd brysur gerllaw ac mae'r gwaith felly'n hanfodol gyda rhai'n poeni am "drychineb" hebddyn nhw.
Mi fydd cerrig mawr o Benmaenmawr yn cael eu gosod i dorri’r tonnau a’r ffordd yn cael ei chodi hyd at ddau fetr, a phlatfform newydd i bysgotwyr.
Yn ôl Dilwyn Price, sydd wedi bod yn byw yn Hen Golwyn am ddegawdau, mae'r buddsoddiad yn "wistrelliad gwych" i'r prom.
"Mae e'n rhywbeth sydd yn cael ei drafod yn reolaidd," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.
"Sut yda ni'n gallu gwarchod ein amgylchfeydd ni. Heb y chwistrelliad gwych yma o arian, byddwn ni'n colli gymaint."
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £9 miliwn at y gwaith.
"Mae e'n bwysig ei fod o'n cael ei gwblhau," dywedodd Cynghorydd Goronwy Edwards o Gyngor Sir Conwy.
"Dros Gymru i gyd, gwelwn fwy a fwy o lifogydd yn digwydd fel 'da ni'n weld.
"Mae'n anodd cael yr arian, ond 'da ni dal i drio dro ar ôl tro."