
Pryder am gynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen di-felanoma yng Nghymru
Pryder am gynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen di-felanoma yng Nghymru

Cafodd Beryl Roberts o Ddyffryn Conwy ddiagnosis o ganser y croen pan oedd hi'n 49 oed.
Dywedodd bod clywed cadarnhad o hynny yn "dipyn o sioc".
Cyn ei hymddeoliad, roedd hi'n bennaeth nyrsio gwasanaeth canser Bwrdd Iechyd Besti Cadwaladr.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Oni'n amau mai dyna oedd o achos mi oedd o'n edrych yn reit anghyffredin.
"Neshi ddim meddwl y bysa fo'n digwydd i fi, doeddwn i heb fod yn torheulo lot."
Roedd hi'n gweithio ar fferm pan yn ifanc ac mae hi'n credu ei bod wedi treulio gormod o amser yn yr haul, yn enwedig un haf.
"Dwi'n cofio llosgi yn yr haul, fy mreichiau a ballu. Doedd ganddo ni ddim yr arian bryd hynny na'r wybodaeth i wybod bod isho defnyddio hylif haul efo ffactor uchel.
"Roedd lle geshi o reit ar le mae (lein) y crys ti a dwi'n meddwl mai dyna wnaeth achosi fo."
Mae Beryl Roberts bellach yn glir o'r canser.
Cynnydd mewn achosion
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn bryderus iawn am y cynnydd yn nifer o achosion o ganser y croen di-felanoma.
Yn ôl ffigyrau newydd, fe gododd y nifer o 7% dros gyfnod o bedair blynedd - y gyfradd uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Canser y croen di-felanoma (NMSC) yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, o flaen canser y prostad.
Fel arfer, mae NMSC yn datblygu mewn mannau yn y corff sydd wedi eu hamlygu fwyaf i'r haul, gan gynnwys y wyneb, pen a'r gwddf.

Fe ddangosodd ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y nifer o achosion o NMSC wedi cynyddu o 7.1% rhwng 2016 a 2019 - o 13,369 i 15,102.
Mae arbenigwyr iechyd yn dweud bod hynny'n bennaf yn cael ei achosi gan ormod o amlygiad i olau UV sy'n dod o'r haul, yn ogystal â gwlâu haul.
Yn wahanol i ganserau eraill, mae yna lai o risg y bydd yn lledaenu i rannau eraill o'r corff.
Os yw'n cael ei drin yn gynnar, mae'r rhan fwyaf o achosion y cael eu trin yn llwyddiannus.
Fe ddisgrifiodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y ffigyrau fel rhai "pryderus iawn".
Ychwanegodd: "Mae yna restrau aros hir, mae yna gymaint o achosion. Ond beth sy'n galonogol mae'n bosib osgoi'r rhan fwyaf.
"Os yda ni'n ystyried faint da ni allan yn yr haul, osgoi gwlâu haul a gorchuddio ein corff mewn haul poeth iawn, yn enwedig dramor, mae modd dros amser, wnawn ddim gweld newid cyflym, dod a'r cyfraddau lawr."
'Ddim yn sioc'
Dywedodd Jemma Collins o Gymdeithas y Dermatolegwyr fod poblogaeth Cymru yn arbennig o agored i niwed gan ganser y croen.
"Y croen Celtaidd sydd gyda ni yng Nghymru felly yn naturiol rydyn ni dipyn goleuach," meddai.
"Mae 'na ffasiwn yng Nghymru i gael lliw haul a defnyddio gwelyau haul yn arbennig.
“Ma’ nifer o ffactorau; gwyliau tramor, y ffaith bod pobl yng Nghymru yn hoffi defnyddio gwelyau haul (sunbeds), ac y ffasiwn i fod â lliw haul.
“Dyw’r cynnydd ddim yn sioc i fi. Ni’n gweld mwy a mwy o pobl ifanc yn dod mewn i glinigau efo cancr y croen. "