Cadw yn gwrthod dynodi Canolfan Ddinesig Abertawe yn adeilad rhestredig am y trydydd tro

Am y trydydd tro, mae Cadw - y sefydliad sy'n gwarchod treftadaeth wedi gwrthod dynodi Canolfan Ddinesig Abertawe yn adeilad rhestredig.
Yn dilyn cais gan sefydliad Twentieth Century Society, mae Cadw, sy’n cofnodi safleoedd hanesyddol o bwys ledled Cymru, wedi gwrthod rhestru’r hen adeilad unwaith eto.
Mae tri chais aflwyddiannus wedi ei gyflwyno bellach ers 2016.
Wedi’i leoli ger y môr, cafodd y Ganolfan Ddinesig, sef hen bencadlys y cyngor sir, ei ddewis oherwydd "pensaernïaeth sy'n nodweddiadol o gyfnod Brwtaliaeth " a ddaeth yn boblogaidd yn y 50au.
Tra'n cydnabod ei fod yn adeilad trawiadol, dywedodd llefarydd ar ran Cadw nad oedd yr adeilad concrit yn “arloeswr” nac yn cwrdd â’r anghenion er mwyn cael ei restru'n safle o ddiddordeb arbennig ar raddfa genedlaethol.
Dywedodd llefarydd ar ran Twentieth Century Society fod y penderfyniad yn “siomedig."
“Mae’n enghraifft wych o bensaernïaeth ddinesig Gymreig, ac yn llawn haeddu derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol.
“Rydym yn ystyried ein hopsiynau ar hyn o bryd ar gyfer y camau nesaf.”
Daw’r cyhoeddiad wrth i Gyngor Abertawe barhau â'r broses o symud ei staff o’r Ganolfan Ddinesig i Neuadd y Ddinas.