Newyddion S4C

Banciau bwyd: Nifer uchaf erioed o barseli wedi eu dosbarthu yng Nghymru

Banciau bwyd: Nifer uchaf erioed o barseli wedi eu dosbarthu yng Nghymru

NS4C 26/04/2023

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae mwy o barseli wedi eu dosbarthu mewn banciau bwyd yng Nghymru nac erioed o'r blaen. 

 Yn ôl elusen Ymddiriedolaeth Trussell cafodd mwy na 185,000 o barseli bwyd eu darparu ar frys. Ac roedd mwy na 69,000 o becynnau ar gyfer plant. 

Roedd nifer y parseli rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 - 85% yn uwch na'r niferoedd a gafodd eu dosbarthu yn ystod yr un cyfnod bum mlynedd yn ôl.

Mae bron i dair miliwn o barseli bwyd wedi eu dosbarthu mewn banciau bwyd yn y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth - sef y nifer uchaf erioed, ac yng Nghymru mae'r cynnydd mwyaf.    

Roedd 41% o gynnydd yng Nghymru, 37% yn Lloegr, 30% yn yr Alban a 29% yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd nifer cynyddol hefyd wedi defnyddio banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell am y tro cyntaf, sef 56,000 yng Nghymru sy'n cyfateb i boblogaeth y Barri. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Yn 2022 a 2023 fe wnaethom fuddsoddi mwy na £1.6bn i helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw. Mae hyn yn cynnwys bron i £6m i helpu cymunedau ac unigolion gyda chymorth bwyd brys ac i ddatblygu atebion cynaliadwy lleol i helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

“Rydym hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae’r gwasanaethau hyn yn achubiaeth i bobl sy’n cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw.

"Mae nifer y bobl sy’n wynebu tlodi bwyd yn peri gofid mawr ac mae angen i Lywodraeth y DU, sydd â phwerau dros y system dreth a lles, gymryd camau brys ac ystyrlon nawr.”

Yn ôl yr elusen, mae'r galw yn fwy bellach nac yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, gyda'r galw yn uwch ym mis Rhagfyr.  

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, mae maint y galw bellach yn fwy na'r rhoddion sy'n dod i law, sy'n golygu fod banciau bwyd yn gorfod prynu mwy o fwyd eu hunain a chanfod mwy o ofod i'w storio. 

Mae'r elusen yn dweud hefyd fod banciau bwyd yn gorfod ymestyn eu horiau agor er mwyn sicrhau fod pobl sy'n gweithio yn medru galw yno y tu allan i'w horiau gwaith.  

Yn ol yr elusen, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig lunio strategaeth hir dymor i fynd i'r afael â'r galw aruthrol bellach.

Dywedodd Emma Revie, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell: “Dros gyfnod sy'n rhy hir, mae bobl wedi bod yn cynilo a pheidio bwyta am nad yw budd-daliadau yn adlewyrchu gwir anghenion costau byw, ac mae pobl yn cael eu gwthio i sefyllfaoedd anodd oherwydd hynny."

"Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau fod lwfans sylfaenol Credyd Cynhwysol yn ddigon i gwrdd â chostau hanfodol." 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym wedi ymrwymo i ddileu tlodi ac rydym yn cydnabod pwysau’r cynnydd mewn costau byw. A dyna pam rydym wedi cynyddu budd-daliadau i 10.1% yn ogystal â gwneud cynnydd digynsail i’r Cyflog Byw Cenedlaethol y mis hwn."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.