Newyddion S4C

India yn cofnodi 300,000 o farwolaethau Covid-19

The Independent 24/05/2021
India
NS4C

Mae India wedi cyrraedd carreg filltir ddifrifol arall ddydd Llun ar ôl i'r wlad gofnodi bod 300,000 o bobl bellach wedi marw yn sgil Covid-19 yn y wlad.

Y gyfradd farwolaeth yn India yw'r trydydd uchaf yn y byd. O'r 34.7 miliwn o farwolaethau Covid-19 sydd wedi eu cofnodi yn fyd-eang, mae 8.6% ohonynt wedi eu cofnodi yn India, meddai The Independent.

Ddydd Llun, adroddodd gweinidogaeth iechyd India fod 4,454 o farwolaethau newydd a 222,315 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yn y wlad.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.