'Ras rhwng datblygiadau'r feirws a datblygiadau'r brechiad.'

'Ras rhwng datblygiadau'r feirws a datblygiadau'r brechiad.'
Mae astudiaeth newydd yn dangos fod dau ddos o frechlynnau Pfizer/BioNTech ac AstraZeneca yn 'effeithiol iawn' wrth ymladd amrywiolyn India o'r feirws.
Daeth cadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr nos Sadwrn fod y brechlynnau bron mor effeithiol wrth ymladd amrywiolyn India ag oedden nhw yn erbyn yr amrywiolyn Caint.
Yn ôl Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'n "ras rhwng datblygiadau'r feirws a datblygiadau'r brechiad."
"Mae'n galonogol iawn i gael y wybodaeth hyn, a bod e'n cael ei gyhoeddi heddi wrth gwrs bod y brechiad yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn newydd yma," meddai.
"Felly y neges bwysig i bobl yw i gymryd y cyfle i gael y brechiad, os nad y'chi wedi cael e eto i sicrhau bo chi'n derbyn y cynnig ac wrth gwrs mae'r ail frechiad yn bwysig iawn, ma'r data'n dangos bod yr effeithiolrwydd dipyn gwell ar ôl yr ail un."
Fodd bynnag mae Dr Eleri Davies hefyd yn rhybuddio fod hi'n debygol bydd "mwy o achosion" oherwydd bod amrywiolyn India yn fwy trosglwyddadwy, ac y bydd amrywiolion newydd yn datblygu yn y dyfodol.
"Mae'n sicr yn debygol y gwelwn ni fwy o achosion, ma'r feirws yma, yr amrywiolyn arbennig yma yn fwy trosglwyddadwy mae'n debyg na rhai o'r fersiynau cyntaf welwyd.
"Ond ar hyn o bryd mae pethau'n edrych yn dda iawn, bod y brechiad yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolion i ni'n gwybod amdanynt mor belled," ychwanegodd.