Eisteddfod Llangollen yn gwneud tro pedol ar ddefnyddio ei harwyddair
Eisteddfod Llangollen yn gwneud tro pedol ar ddefnyddio ei harwyddair
Ar ôl penderfynu newid ei harwyddair, mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi gwneud tro pedol.
Daw hyn wedi i nifer wrthwynebu'r bwriad i newid arwyddair yr Eisteddfod, gyda llythyr gan nifer o wrthwynebwyr yn dweud y byddai'n "dwyn anfri" arni hi ei hun gyda'r newid.
Mewn datganiad yn gynharach ym mis Mawrth, dywedodd yr Eisteddfod y bydd yr arwyddair "Byd gwyn fydd byd a gano. Gwaraidd fydd ei gerddi fo" yn cael ei newid erbyn 2024.
Cafodd y cwpled adnabyddus ei gyfansoddi gan T. Gwynn Jones, ac ers 75 o flynyddoedd, dyma arwyddair i Eisteddfod sy’n denu pobl o bedwar ban byd i Gymru.
"Blessed is a world that sings, gentle are its songs" ydy'r cyfieithiad Saesneg o eiriau'r bardd, ond mewn ymgynghoriad diweddar i foderneiddio’r ŵyl, fe ddaeth i’r amlwg bod rhai yn poeni bod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth eu cyfieithu.
Roedd pryderon fod rhan o’r arwyddair sy’n dathlu “byd gwyn” yn cael ei gyfieithu i “white world” yn Saesneg.
'Parhau i ddefnyddio'
Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod: "Yn dilyn cryn ystyriaeth o ymateb y cyhoedd, mae’r Bwrdd wedi pleidleisio i barhau i ddefnyddio arwyddair T. Gwynn Jones.
"Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i drafodaeth gyhoeddus yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod arwyddair yr Eisteddfod yn adlewyrchu’r byd rydym yn byw ynddo heddiw a’r byd rydym am fyw ynddo yfory."
Ychwanegodd bod angen "ystyried llawer o leisiau gwahanol, a chwestiynu sut mae iaith yn parhau i esblygu."
Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yr arwyddair yn "ymddangos ochr yn ochr â’u gilydd lle bynnag y bo modd."