Newyddion S4C

Y farchnad dai ym Môn yn “gwbl annheg”

Newyddion S4C 22/05/2021

Y farchnad dai ym Môn yn “gwbl annheg”

Yn ôl Arweinydd Cyngor Môn mae’r farchnad dai a’r sefyllfa yn ymwneud ag ail gartrefi ar yr ynys yn “gwbl annheg”.

Roedd cynnydd o 8.4% mewn prisiau tai yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y llywodraeth wedi ymrwymo i adeiladu tai fforddiadwy i bawb. 

Eglurodd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Môn: “Nes bo ni'n gallu sicrhau cartrefi o ansawdd da yn fforddiadwy i'n pobl ifanc ni ma'n cymunedau ni yn mynd i ddiflannu.

“I unrhyw berson ifanc sydd ar Ynys Môn sydd yn sbïo am dŷ ac yn edrych ar y prisiau, a gwbo bo nhw methu brynu fo, ma' hwnna’n gwbl, gwbl annheg.

“Ma' cynnydd o 16% ym mhrisiau, ma' huna wyth gwaith cyfartaledd cyflog Ynys Môn felly ma'r sefyllfa yn gwbl, gwbl annheg.”

Ar ôl arbed arian ers blynyddoedd i brynu eu cartref cyntaf mae Sian Roberts, sydd wedi cael ei magu yn ardal Llanfairpwll, a'i darpar ŵr wedi cyrraedd eu targed.

Ond mae'r tai yn Sir Fôn bellach tu hwnt i'w cyrraedd.

'Ddim yn opsiwn ar y funud'

“Dwi'n dallt pam 'ma pobl eisiau ail gartref ar Ynys Môn,” meddai.

“Mae'n lle rili prydferth, mae 'na traeth pob ochr, mae'n rili rwla lyfli i dod ar gwyliau, i dod i weld.

“Ond mae'n gallu bod yn rili frustating pan ti'n gweld ma'r tŷ yna yn wag mwy na hanner y flwyddyn, fysa hyn di gallu bod yn tŷ i fi, fysa gallu bod yn cartref i mi, fysa di gallu ella dechrau teulu a ballu fanna, a dio jyst ddim yn opsiwn ar y funud.”

'Dim digon o stoc'

Yn ôl un gwerthwr tai y pandemig sydd yn rhannol gyfrifol am y broblem.

“Ma' di bod yn brysur ofnadwy ers 'da ni di dod allan o'r lockdown blwyddyn diwetha', a 'da ni wedi weld prisiau tai yn codi, ma'r prynwyr yn creu y farchnad yna,” meddai Melfyn Williams o Williams & Goodwin yn Llangefni.

“'Da ni'n rhoi tŷ ar werth, a wedyn ma' rywun arall yn dod yn cynnig fwy, a wedyn wrth gwrs ma' hynny wedyn yn mynd ymlaen i'r tŷ nesa'.

“Ma' 'na fwy o bobl angen tai ar y funud na be sy' 'na o dai, a does dim digon o stoc yn dod ar werth a ma' hynny hefyd yn creu’r broblem sydd yna ar y funud.”

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i adeiladu tai fforddiadwy o safon i bawb. Rydym yn ymwybodol iawn, ac yn poeni am yr effaith mae nifer uchel o ail gartrefi yn gallu ei chael mewn rhai ardaloedd o Gymru.

"Rydym wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai carbon isel ar draws cymru a chreu cynllun tai i gymunedau iaith Gymraeg".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.