Newyddion S4C

Disgwyl i'r Ffindir ymuno â NATO yn swyddogol ddydd Mawrth

04/04/2023
S4C

Mae disgwyl y bydd y Ffindir yn ymuno gyda NATO'n swyddogol yn ddiweddarach dydd Mawrth.

Byddai'r fath gam yn dod â blynyddoedd maith o niwtraliaeth y wlad i ben, ac mae'r datblygiad yn dod mewn ymateb i ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcráin.

Fe fydd yr uno yn sicr hefyd o godi gwrychyn Vladimir Putin a'i lywodraeth yn y Kremlin.

O ganlyniad i dderbyn aelod newydd i'r 30 gwlad oedd yn aelodau'n barod, fe fydd ffin newydd NATO yn ymestyn 1,300km yn ychwanegol i ddwyrain Ewrop o ganlyniad i'r Ffindir yn ymuno.

Mae Moscow wedi rhybuddio'n barod y bydd yn cryfhau ei hamddiffynfeydd ar hyd y ffin gyda'r Ffindir.

Aeth y ddwy wlad i ryfel yn erbyn ei gilydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ystod Rhyfel y Gaeaf - gyda methiant y Kremlin i hawlio tiriogaeth sylweddol yn erbyn byddin llawer iawn llai yn atgof o'r sefyllfa yn Wcráin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.