Newyddion S4C

Rhanbarthau rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yn dod i gytundeb ariannol newydd

31/03/2023
Stadiwm Principality

Mae rhanbarthau rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru wedi dod i gytundeb ar becyn i ariannu’r gêm broffesiynol yng Nghymru am y chwe blynedd nesaf.

Cyhoeddodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol ddydd Gwener ei fod wedi arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) gyda’r Undeb, Rygbi Caerdydd, Dreigiau, Gweilch a Scarlets, hyd at 2029.

Bydd y PRA yn rhoi’r strwythur ariannol rhwng Undeb Rygbi Cymru a chyfranddalwyr y rhanbarthau, er mwyn "creu platfform am gynnydd cynaliadwy".

Rhai o brif ddatblygiadau'r cytundeb ydy'r canlynol:

-Bydd cap ar gyflogau yn cael eu cyflwyno ar gyfer tymor 2023/24.

- Bydd dau fath o gytundeb yn cael ei gynnig sef cytundebau sefydlog a chytundeb sydd yn seiliedig ar y nifer o ymddangosiadau mae chwaraewr yn ei wneud a'r perfformiadau. 

- Bydd cytundebau ar gyfer chwaraewyr sydd o ddiddordeb cenedlaethol yn cael eu cytuno gan y clwb a Chyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru. 

- Mae'r clybiau wedi ymrwymo i isafswm gwariant ar academïau chwaraewyr.

- Bydd pob clwb yn cael eu harchwilio yn rheolaidd o safbwynt gwariant y garfan, cytundebau, cynlluniau busnes a pherfformiad yr academi.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall: “Dwi ddim yn gor-ddweud wrth ddweud fod llawer o waith, amser ac ymdrech wedi digwydd er mwyn cynnig cytundeb sy’n addas i bawb ac wedi ei greu er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib i rygbi proffesiynol yng Nghymru o’r adnoddau sydd ar gael i ni."

Ychwanegodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, mai “ein nod oedd sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n pedwar rhanbarth proffesiynol ac i Gymru, ac mae’n rhaid diolch i bawb sydd wedi cyflawni hyn.

“Mae’r cydweithrediad rhwng Undeb Rygbi Cymru, ein clybiau proffesiynol a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru wedi bod yn rhan hollbwysig o’r broses hon, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd er budd dyfodol rygbi yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.