Cytundeb masnach ag Awstralia: Dyfodol ffermydd Cymru ‘mewn perygl’
Mae llywydd un o brif undebau amaeth Cymru wedi beirniadu’r trafodaethau am gytundeb masnach rhwng y DU ag Awstralia.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gwblhau trafodaethau ynghylch y cytundeb ddechrau mis Mehefin.
Dywedodd John Davies, llywydd NFU Cymru ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r adroddiadau ynghylch y trafodaethau, gan ddweud y byddai aelodau yn bryderus iawn am yr effaith “sesmig” fyddai datblygiadau o’r fath yn ei gael ar fusnesau a chymunedau cefn gwlad yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU na fyddai gweinidogion yn caniatáu i fewnforwyr "danseilio’r diwydiant ffermio na safonau bwyd."
Bydd y cytundeb yn dod â threthi mewnforio’r ddwy wlad i ben yn raddol dros 15 mlynedd, gan ei gwneud hi’n haws i gwmnïau yn Awstralia allforio cynnyrch fel cig oen a chig eidion i’r DU.
Dywedodd Mr Davies: “Mae NFU Cymru credu’n gryf y bydd cytundeb masnach heb dariff gydag Awstralia yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ffermio Cymru ac yn rhoi dyfodol ffermydd teuluol Cymru, sy’n sail i fywyd a diwylliant Cymreig, mewn perygl... bydd cam o’r fath gan Lywodraeth y DU yn hynod niweidiol i nifer fawr o fentrau ffermio cig eidion a defaid Cymru.”
Galw am eglurhad
Ychwanegodd Mr Davies: “Mae NFU Cymru yn galw am eglurhad ar frys gan Lywodraeth y DU ynghylch dilysrwydd yr adroddiadau hyn a sut y bydd cyflwyno’r mesur yn raddol a mesurau diogelwch sy’n cael ei adrodd yn y cyfryngau yn y DU yn cynnig unrhyw fath o warchodaeth i fusnesau ffermio yma yng Nghymru ac ar draws y DU.”
Dywedodd Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU y byddai’r cytundeb yn “gam pwysig” i ymuno â’r grŵp masnach ar draws y Cefnfor Tawel, grŵp sy’n cynnwys Seland Newydd, Chile, Japan, Fietnam, yn ogystal ag Awstralia.
Byddai cytundeb yn “caniatáu mwy fyth o fynediad i ffermwyr y DU i farchnadoedd sy’n tyfu yn Asia”, meddai llefarydd ar ran yr adran, gan ychwanegu na fyddai’n caniatáu i fewnforwyr danseilio’r diwydiant ffermio na safonau bwyd.