Cyngor Gwynedd yn croesawu penderfyniad i adeiladu ysgol newydd yn Bontnewydd

25/03/2023
Ysgol Bontnewydd

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r newyddion y bydd ysgol a chanolfan gymunedol newydd yn cael ei hadeiladu ym Mhontnewydd.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles AS ddydd Gwener y byddai tair ysgol gynaliadwy newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru.

Bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £44.7 miliwn i adeiladu’r dair ysgol net sero carbon sef Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan ym Mhort Talbot, Ysgol Bontnewydd ger Caernarfon, ac ysgol gynradd Gymraeg newydd i wasanaethu cymuned Glyn-coch, yng Nghwm Rhondda.

Dyma’r tri phrosiect buddugol ar ôl i’r gweinidog wahodd ceisiadau am brosiectau arloesol a oedd yn dangos cydweithio rhwng ysgolion a chymunedau lleol.

Bydd Ysgol Bontnewydd a’r Ganolfan Gymunedol yn gweithredu’n ddi-garbon, gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o ddau adeilad ar y safle sy’n mynd i gael eu dymchwel.

Bydd yr ysgol hefyd wedi ei chysylltu â llwybr Lôn Eifion, gan roi mynediad i ddisgyblion gyrraedd yr ysgol drwy seiclo neu gerdded.

'Wrth galon y gymuned'

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Addysg Cabinet Cyngor Gwynedd, ei fod yn “newyddion gwych” gan longyfarch pawb a weithiodd ar y cais llwyddiannus.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld y gwaith yn cychwyn a gweld y plant yn mwynhau buddion addysgiadol a chymdeithasol yn yr ysgol, a fydd yn darparu cyfleusterau i’r gymuned gyfan.”

Dywedodd y cynghorydd Menna Jones, cadeirydd pwyllgor Canolfan Gymuned Bontnewydd: “Fel rhiant i blentyn sy’n ddisgybl yn Ysgol Bontnewydd, mae hyn yn newyddion arbennig iawn.

“Mae’r ysgol a’r ganolfan wedi bod wrth galon y gymuned ers cenedlaethau, ond fel popeth, maen nhw wedi dirwyo dros amser.

“Yn sgil y buddsoddiad yma, bydd teuluoedd yr ardal yn gallu edrych ymlaen at fwynhau ysgol fodern ac adnoddau cymunedol am genedlaethau i ddod.”

Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn ysgol gynradd Gymraeg newydd a fydd yn cynnwys uned drochi, gan ddarparu ystod o wasanaethau addysgol a chymunedol.

Bydd yr ysgol gynradd newydd yn ardal Glyn-coch yn cynnwys toeau gwyrdd, gerddi glaw a datrysiadau seiliedig ar natur i reoli dŵr wyneb. Bydd hefyd yn creu canolfan addysg, llesiant ac ymgysylltu dinesig o dan un to.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae ysgolion yn golygu llawer mwy na brics a mortar.

“Gall adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gefnogi staff a dysgwyr ag addysg, yn ogystal â darparu safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb.

“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r tri phrosiect yn rhoi cyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a gwireddu nod y Cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesegol, gwybodus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.