Newyddion S4C

Tlws y JD Cymru Premier

Y Seintiau Newydd yn ennill y Cymru Premier JD

NS4C 17/03/2023

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill y Cymru Premier JD yn dilyn gêm gyfartal gyda Chei Connah nos Wener. 

Dim ond pwynt oedd angen ar y Seintiau Newydd er mwyn sicrhau eu 15fed pencampwriaeth. 

Nid gêm gyffrous oedd hi yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy wrth i'r ddau dîm fethu i sgorio. 

Ond ni fydd y Seintiau Newydd yn poeni dim am y diffyg goliau, wrth iddynt ennill y gynghrair gyda phum gêm dal i chwarae. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.