Newyddion S4C

HS2

Ail reilffordd newydd yn Lloegr yn cael ei dynodi yn un ‘Cymru a Lloegr’

NS4C 17/03/2023

Mae ail reilffordd a fydd yn cael ei hadeiladu yn Lloegr wedi cael ei dynodi yn un ‘Cymru a Lloegr’ gan Lywodraeth y DU.

Daw hyn wedi i HS2 ddod yn destun dadlau gwleidyddol wedi iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae hynny'n golygu mai dim ond Yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd yn cael budd ariannol o'r prosiect a fydd yn teithio rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.

Ond bellach mae Llywodraeth y DU wedi dynodi Rheilffordd ‘Northern Powerhouse’ yn un a fydd o fudd i Gymru hefyd.

Mae’r rheilffordd honno yn un a fydd yn sicrhau gwell cysylltiadau rhwng Lerpwl, Manceinion, Leeds, Bradford ac Efrog.

Cadarnhaodd y Trysorlys wrth wefan WalesOnline eu bod nhw’n bwriadu dynodi'r rheilffordd yn un fydd o fudd i Gymru, er nad oes cynlluniau wedi eu cyhoeddi ar hyn o bryd i gynnwys Cymru o fewn y gwaith adeiladu newydd.

Fe fydd hynny’n golygu na fydd Cymru, fel yn achos HS2, yn cael ei siar o arian ychwanegol fel y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond fe ychwanegodd y Trysorlys y byddai'r budd i Gymru yn dod yn amlwg “cyn bo hir”.

Ymatebodd Plaid Cymru drwy ddweud fod angen datganoli rheolaeth dros gynnal ac adeiladu rheilffyrdd i Gymru.

“Mae'n amlwg na fydd gwelliannau i amseroedd teithio rhwng Lerpwl a Leeds yn gwneud dim i wella trafnidiaeth yng Nghymru,” medden nhw.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.