Newyddion S4C

Cymru

Cymru yn ceisio 'osgoi crasfa' wrth wynebu Ffrainc yng ngêm olaf y Chwe Gwlad

NS4C 18/03/2023

Nid ennill fydd ar feddwl Warren Gatland a'i chwaraewyr wrth iddynt wynebu Ffrainc yn rownd olaf y Chwe Gwlad, yn ôl cyn-gapten Cymru. 

Yn hytrach, mae Gwyn Jones yn credu mai'r unig obaith sydd gan Gymru ym Mharis yw ceisio "osgoi crasfa" wrth i bencampwriaeth siomedig ddod i ben. 

Mae Cymru eisoes wedi torri ambell i record - ond am y rhesymau anghywir - yn y gystadleuaeth eleni.

Fe wnaeth y crysau cochion ddioddef eu colled fwyaf i Iwerddon yng Nghaerdydd ers 2001, cyn cwympo i'w colled drymaf erioed yn erbyn Yr Alban wythnos yn ddiweddarach. 

Bellach mae'n ymddangos bod Warren Gatland wedi paratoi ei garfan er mwyn ceisio osgoi rhagor o embaras. 

Image
Rio Dyer

Mae'r chwaraewyr ifanc fel Mason Grady, Joe Hawkins a Dafydd Jenkins wedi cael hoe ac yn eu lle mae rhai o'r wynebau mwyaf profiadol fel Alun Wyn Jones, George North a Dan Biggar. 

Mae Gatland eisoes wedi awgrymu mai dyma fydd y gêm Chwe Gwlad olaf i rai o'r hen gad, a'u swyddogaeth olaf yw ceisio atal cweir tebyg i'r un a ddioddefodd Lloegr yn Twickenham. 

Ond yn ôl Gwyn Jones, mae'n annhebygol y bydd profiad yn ddigon i rwystro'r Ffrancwyr. 

"Dwi methu gweld unrhyw ffordd mae Cymru yn ennill ym Mharis," meddai.

"Mae Ffrainc yn well ymhob agwedd o'r gêm.

"Rydw i'n pryderu am gryfder eu blaenwyr, y cymysgedd o bŵer a sgiliau sydd o fewn eu cefnwyr a dylanwad y chwaraewr gorau ym myd rygbi, Antoine Dupont."

'Dim yn gwybod y tîm gorau' 

Llwyddodd Cymru i gystadlu gyda'r sêr fel Dupont, Gregory Aldritt a Damien Penaud y llynedd, gan golli'n agos 9-13 yn Stadiwm y Principality i'r tîm aeth ymlaen i ennill y Gamp Lawn.

Ond ers hynny, mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth i Gymru, ac eleni mae'r crysau cochion yn wynebu un o'u pencampwriaethau Chwe Gwlad mwyaf heriol ers blynyddoedd. 

Er mae'n debygol y bydd Cymru yn osgoi'r llwy bren, roedd yna berfformiadau siomedig yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop. 

Image
Cymru yn erbyn Iwerddon

Gyda llai na chwe mis i fynd tan Gwpan y Byd, ni fydd cefnogwyr yn obeithiol o fynd yn bell yn y gystadleuaeth. 

Yn ôl Gwyn Jones, mae gan Gatland tipyn o waith i'w wneud er mwyn gwneud llwyddiant o'i ail gyfnod wrth y llyw. 

"Dwi o dan yr argraff bod y Chwe Gwlad wedi bod yn broses o chwilio am enaid Cymru i Gatland," meddai.

"Arferion ei gyfnod gyntaf wrth y llyw oedd carfan gyson, disgyblaeth dda ac amddiffyn cryf.

"Eleni ni wedi gweld newidiadau i'r garfan pob gêm, nifer annerbyniol o giciau cosb ac amddiffyn gwan.

"Os ydy Gatland yn gwybod ei dîm gorau, mae wedi cuddio'r ffaith yn dda iawn." 

'Disgwyliadau wedi newid'

I Gwyn Jones, mae'r canlyniadau diweddaraf yn golygu ei fod yn disgwyl gymaint yn llai gan Gymru ar hyn o bryd. 

"Dwi eisiau gweld rhywfaint o ffyrnigrwydd, rhywfaint o awch a'r dymuniad i herio Ffrainc. 

"Fe wnaeth Cymru golli i Iwerddon gan 24 pwynt yn erbyn Iwerddon a 28 pwynt yn erbyn Yr Alban.

"Os byse ti'n cynnig colli gan 15 pwynt i Ffrainc, byswn i'n derbyn yn syth - mae ein disgwyliadau wedi newid gymaint!"

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.