Heddlu yn arestio bachgen 17 oed wedi ddigwyddiad yng Nghaerdydd
20/05/2021
Heddlu.
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio bachgen 17 oed ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd brynhawn dydd Iau.
Daw hyn ar ôl i heddlu arfog ymateb i ddigwyddiad ger ysgol yn ardal Pentwyn o'r brifddinas.
Er bod y digwyddiad wedi dod i ben yn yr ardal erbyn hyn, cyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod wedi arestio bachgen 17 oed ar amheuaeth o fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i werthu.
Dywedodd yr heddlu bod grymoedd ychwanegol o dan Adran 60, sydd yn galluogi unrhyw heddwas i atal a chwilio unrhyw un ar droed neu mewn cerbyd am arfau neu offer peryglus, yn parhau i fod mewn grym.